SL(6)157 – Rheoliadau Bwyd (Tynnu Cydnabyddiaeth yn Ôl) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022
Cefndir a diben
Mae’r Rheoliadau yn diwygio nifer o offerynnau statudol mewn perthynas â chyfansoddiad bwyd yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Gwlad a Ffefrir Fwyaf Sefydliad Masnach y Byd (WTO).
Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu cymalau cydnabyddiaeth gilyddol a oedd yn caniatáu i gynhyrchion bwyd sy'n cael eu cynhyrchu a'u gwerthu’n gyfreithlon yn Aelod-wladwriaethau'r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu Weriniaeth Twrci, gael eu gwerthu yn y DU, hyd yn oed os nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion cyfraith y DU.
Maent hefyd yn diwygio Rheoliadau Bara a Blawd 1998 i ddarparu esemptiadau ar gyfer bara neu flawd heb eu cyfnerthu a gynhyrchir yng Nghymru sydd i'w hallforio i drydedd wlad, ac i flawd heb ei gyfnerthu gael ei gynhyrchu yng Nghymru neu ei fewnforio i Gymru, ar yr amod ei fod i'w ddefnyddio mewn bwyd sydd i'w allforio i drydedd wlad yn unig.
Mae’r Rheoliadau’n cyflwyno cyfnod trosiannol sy’n dod i ben ar ddiwedd 30 Medi 2022, pan fydd yr esemptiadau sydd wedi eu dileu yn parhau i fod yn gymwys.
Gweithdrefn
Negyddol
Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Caiff y Senedd ddirymu’r Rheoliadau cyn pen 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd wedi (i) ei diddymu, neu (ii) yn ystod toriad o dros bedwar diwrnod) ar ôl y dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.
Materion technegol: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Rhinweddau: craffu
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd
Er bod yr esemptiadau sy’n ymwneud â bwydydd penodol a ddaw i Gymru o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig wedi’u dileu, bydd y Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i brif ddarpariaethau Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (“UKIMA”), gan gynnwys yr egwyddor cydnabyddiaeth gilyddol ar gyfer nwyddau. Gan nad yw’r Memorandwm Esboniadol yn ymddrin ag effeithiau’r UKIMA ar gyfansoddiad bwyd yng Nghymru, gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro a yw wedi ystyried effeithiau’r UKIMA ac a allai unrhyw broblemau godi mewn perthynas â’r maes pwnc hwn oherwydd gofynion y Ddeddf honno.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
22 Chwefror 2022